top of page

Covid-19

Rydym wedi ailagor ein hymgynghoriadau wyneb i wyneb.

​

Yn Ffisiotherapi Flex, iechyd, lles a diogelwch ein cleifion ac ein staff yw ein blaenoriaeth yn ystod y sefyllfa ddigynsail sy’n amgylchynu'r pandemig Covid-19 presennol. I gydfynd gyda chanllawiau’r llywodraeth, rydym wedi ailagor ein clinig i ailgychwyn ymgynghoriadau hwyneb i wyneb. Rydym wedi creu’r mesurau dilynol er mwyn lleihau’r risg i’n staff, cleifion ac i iechyd y cyhoedd.

Rydym wedi gwneud gwaith caled a rhoi llawer o ymdrech i sicrhau bod y clinig yn lle diogel ichi ddychwelyd…

Rydym wedi gosod hylenid llym a phroses asesiad risg, mae'r rhain yn cynnwys:

-           Boddhau cyfrifoldebau cyfreithiol, rheolaethol, a phroffesiynol

-           Asesiad risg o’r clinig

-           Mesurau rheoli ac atal haint

-           Offer amddiffynnol personol

-           Cymryd y dull ‘rhith gyntaf’

-           Asesiad risg ar y claf, a rhesymu clinigol

-           Addysg glaf a chaniatâd i driniaeth

Rydym yn falch iawn o beth sydd wedi cael ei gyflawni ac yn edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl!

 

Ein blaenoriaeth yw’r diogelwch o’n cleifion a staff, felly cyn trefnu ymgynghoriad hwyneb i wyneb mae’n rhaid inni gynnal yn gyntaf, ymgynghoriad ar-lein neu dros y ffôn.

​

​

Peidiwch â mynychu os ydych chi neu rywun rydych wedi bod mewn cysylltiad gyda, wedi bod yn anhwylus yn ystod yr 14 diwrnod diwethaf, os gwelwch chi’n dda. Gan gynnwys, ond dim yn hollol, y symptomau dilynol:

-           Twymyn dros 37.8 gradd

-           Peswch newydd

-           Colled mewn blas neu arogl

​

Peidiwch â mynychu os nad ydych wedi bod yn dilyn canllawiau’r llywodraeth ar gyfer pellter cymdeithasol. Os ydych yn ansicr dilynwch y ddolen hon: https://www.gov.uk/coronavirus

​

​

Cynhwysedd a glanhau’r clinig:

​

-           Dim ond un ffisiotherapydd bydd yn gweithio ym mhob clinig.

-           Dim ond un claf bydd yn y safle. Ni fydd yna apwyntiadau trawsgroesiad.

-           Bydd bwlch o o leiaf 15 munud rhwng pob apwyntiad.

-           Bydd hyn yn galluogi'r ffisiotherapydd cael amser i newid eu hoffer amddiffynnol personol ac i lanhau'r holl arwynebau sydd wedi cael eu cyffwrdd gan unai'r ffisiotherapydd neu’r claf. Mae hyn yn cynnwys plinthau, clustogau, offer campfa, cadeiriau, dolenni, canllaw grisiau, a switsh golau. 

- Ni fydd tywelion na orchuddion glwth yn cael eu defnyddio.

​

 

Offer amddiffynnol personol:

​

Bydd eich ffisiotherapydd yn gwisgo’r offer amddiffynnol personol dilynol yn eich apwyntiad. Mae hyn yn cydfynd gyda chanllawiau cyfoes y llywodraeth a CSP: https://www.gov.uk/government/publications/wuhan-novel-coronavirus-infection-prevention-and-control

-           Menig heb latecs (defnydd unigol)

-           Ffedog (defnydd unigol)

-           Mwgwd IIR (defnydd sesiynol)

​

​

Beth i ddisgwyl pan rydych yn dod i’r clinig:

​

Pan rydych yn dod i’r clinig rydym yn gofyn ichi ddilyn y rheolau dilynol:

-           Cwblhewch yr holiadur gwirydd symptomau bydd yn cael ei yrru trwy e-bost. Rhaid i hwn cael ei wneud ar ddiwrnod eich apwyntiad cyn mynychu eich apwyntiad.

-           Disgwyliwch du allan i’r clinig neu du allan i’ch car tan amser eich apwyntiad. Peidiwch â chyrraedd yn fuan os gwelwch chi’n dda, bydd hyn yn sicrhau nad oes trawsgroesiad rhwng cleifion ac yn gadael amser inni lanhau pob dim a newid ein hoffer amddiffynnol personol.

-           Gwisgwch fwgwd neu orchudd hwyneb trwy gydol eich amser yn yr adeilad. Byddem yn darparu mwgwd ar eich cyrhaeddiad os nad oes gennych un.

-           Byddem yn gofyn ichi lanhau eich dwylo yn ofalus gyda gel sydd wedi seilio gydag alcohol wrth fyndi fewn ac allan o’r clinig.

​

- Pan yn y clinig- er mwyn lleihau cysylltiad agos byddem yn cadw pellter cyhoeddus (h.y.. >2 medr) pan yn bosib. Fodd bynnag, er mwyn asesu a thrin yn llawn ni fyddem yn gallu cadw pellter cyhoeddus o hyd. Byddem yn gwneud pob peth posib ar gyfer lleihau'r risg i’n staff a chleifion. Fodd bynnag, os ydych yn mynychu’r clinig ar gyfer triniaeth hwyneb i wyneb, byddwch yn ymwybodol na allem ddileu’r risg o gyfyngu Covid-19 yn hollol.

-           Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mynd i’r toiled cyn mynychu eich apwyntiad os gwelwch chi’n dda.

​

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich ymgynghoriadau hwyneb i wyneb neu fideo gyda ni, peidiwch â phetruso i gysylltu gyda ni ar 07901567003 neu e-bost flexphysio10@gmail.com.

​

​

bottom of page