
Tel: 07901 567 003
Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol
​
​
​
Fel rydych yn ei wybod, y peth allweddol i’w wneud ar gyfer gwella yw diagnosis a thriniaeth
brydlon. Yn Flex Physio rydym yn cynnig gwasanaeth wedi teilwro’n bwrpasol i siwtio eich
anghenion. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau triniaeth, o ddwylo ymarferol,
mobileiddio meinweoedd meddal, tylino’r corff therapiwtig, strategaethau i reoli poen ac aciwbigo i
raglenni ymarferion teilwredig. Bydd ein hadborth ar rwystro a sut yr ydych yn gallu helpu eich
hunain yn atal y broblem rhag dychwelyd dro ar ôl dro.
Rydym yn darparu triniaeth ar gyfer amrywiaeth eang o broblemau cyhyrysgerbydol, gan gynnwys:
​​
-
Poen yn y cefn gyda neu heb sciatica
-
Poen yn y gwddf gyda neu heb boen pelydriad yn y fraich
-
Problemau’r ysgwydd/ penelin
-
Problemau’r glun/ pen-glin/ ffêr
-
Anafiadau chwaraeon
-
Cyflyrau’r cymalau
-
Cur pennau
-
Anghydbwysedd cyhyrau
-
Problemau ergonomeg ac osgo
-
Ôl-llawdriniaeth neu dorasgwrn
-
Therapi llaw
-
Rheolaeth o gyflyrau mwy cronig
​
​
​
Mae gennym ni brofiad eang o drin anafiadau o nifer o chwaraeon gwahanol megis nofio, rhedeg, rygbi, pêl-droed a thriathlon. Mae gennym ni brofiad o drin pobl o wahanol oedrannau o blant, glaslanciau/glaslancesi a phobl ifanc sy’n cystadlu ar lefelau uchel/ cenedlaethol i’r athletwr hÅ·n. Ein nod yw galluogi pobl cadw mor weithgar â sy’n bosib, am y cyfnod hiraf posib. Mae’r rhan fwyaf o anafiadau chwaraeon yn gwella gyda ffisio, ond os ydym yn teimlo na fyddent, byddem yn trefnu apwyntiad i chi cael ymweld â’r llawfeddyg Orthopaedig sy’n arbenigo yn eich anaf, yn gynt yn hytrach na hwyrach.
​
​
Rydym wedi gweithio gyda’r llywodraeth leol a chwmnïoedd mawr am sawl blwyddyn i ddarparu
ffisiotherapi iechyd galwedigaethol sydd wedi gadael eu staff aros yn eu gwaith neu ddychwelyd yn
ôl i’w gwaith cyn gynted â phosib.
​
​
​
​