top of page

​

Moyra Barnes

BSc (Hons) Physiotherapy MSc Manual Therapy HCPC MCSP AACP

Gwnaeth Moyra gymhwyso yn Iwerddon ym 1992. Ers hynny, mae hi wedi gweithio yn New Orleans
ac yng Nghymru fel ffisiotherapydd cyhyrysgerbydol. Mae ganddi 27 mlynedd o brofiad ac yn cadw’n gyfoes gyda’r holl gynnydd mewn meddyginiaeth cyhyrysgerbydol.
Cwblhaodd ei MSc mewn Manual Therapy ym Mhrifysgol Manceinion yn 2004. Mae hi’n parhau i
weithio mewn ymarfer preifat a hefyd gyda’r GIG fel ymarferwr ffisiotherapist uwch. Mae hi hefyd
yn gymwysedig gydag aciwbigo.
Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn chwaraeon a chafodd ei magu i gymryd rhan mewn athletau a
chwaraeon Gwyddeleg, gan gynnwys camogie (Hurley) a phêl-droed Gwyddeleg. Ers symud i Gymru, mae Moyra wedi cymryd diddordeb mewn Rygbi ac yn mwynhau cefnogi ei mab wrth iddo chwarae mewn gêm rygbi. Mae hi hefyd wedi treulio llawer o flynyddoedd gyda’r clybiau nofio lleol gyda’i merch sydd yn nofio’n gystadleuol. Mae Moyra yn cadw’n iach ac yn heini trwy redeg yn aml gyda Lucy, ei chi.

Siobhan Godber

BSc (Hons) Physiotherapy Msc Manual Therapy  HCPC MCSP AACP

Gwnaeth Siobhan gymhwyso o’r Ysgol Ffisiotherapi ym Manceinion ym 1999. Gweithiodd i’r GIG am
ddwy flynedd, ac yna gwirfoddolodd mewn Ysbyty Orthopaedig yn De Affrica, gan drin nifer
amrywiol o broblemau Orthopaedig.
Dychwelodd yn ôl i’r GIG am nifer o flynyddoedd cyn penderfynu symud i Perth, Gorllewin Awstralia.
Yma, astudiodd Masters mewn Manual Therapy yn 2006, a gweithiodd mewn ysbytai ac ymarferion
preifat yna. Dychwelodd yn ôl i Ogledd Cymru i weithio yn y GIG ac ymarfer preifat.
Mae Siobhan wedi gweithio fel Ffisiotherapydd Clinigol Arbenigol yn y GIG am y 12 mlynedd
diwethaf, gan asesu a thrin amrywiaeth eang o broblemau Cyhyrysgerbydol. Mae hi hefyd yn
gweithio fel ffisiotherapydd arbenigol gydag ysgwyddau yn y GIG, ac yn gweithio’n agos gyda
llawfeddygon yr ysgwydd. Mae hi’n gymwysedig gydag aciwbigo. Mae Siobhan hefyd yn rhugl yn y
Gymraeg.
Mae Siobhan yn mwynhau mynd allan ar ei bwrdd rhwyfo a nofio yn Llyn Padarn.

Gwern Dafydd
BSc Hons Physiotherapy HCPC MCSP

Enillodd Gwern gymhwyster ffisiotherapi ym Mhrifysgol Salford yn 2012 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Arbenigwr Clinigol Ffisiotherapi i’r GIG mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, yn asesu a thrin amrywiaeth eang o gyflyrau niwrocyhyrysgerbydol.  Mae wedi gweithio yn y sector breifat a’r GIG yng Nghymru am 10 mlynedd yn ogystal ag ennill profiad ychwanegol mewn peldroed proffesiynol ynghyd â rygbi a pheldroed lled-broffesiynol.  Mae ganddo gymhwyster aciwbigo ac ar hyn o bryd mae’n gwneud gradd Feistr mewn Uwch Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion.  Hefyd, mae ganddo radd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer, cymhwyster Crossfit Lefel 1, a diddordeb mewn anafiadau ac adferiad mewn ymarfer, rhedeg, a chwaraeon.  Mae Gwern yn siaradwr Cymraeg rhugl.

bottom of page